Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 21 Hydref 2019
Amser:
13.18 -
15.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5627
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, WEFO Andrew Slade, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Richard Harries |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Lowri Barrance (Dirprwy Glerc) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Nodwyd y papurau.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion yn y llythyr ar oruchwyliaeth reoleiddio ar Gymdeithasau Tai.
2.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â chyhoeddi’r Adroddiad ar Dlodi Tanwydd, ac at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch Adroddiad y 'drws blaen' i ofal cymdeithasol i oedolion.
2.4 Gofynnodd y Pwyllgor am sesiwn friffio fanwl ar y Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus.
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor yr ail sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
3.2 Gofynnodd y Cadeirydd ar beth y bydd y benthyciad o £21.2 miliwn yn cael ei wario ym Maes Awyr Caerdydd ynghyd ag amserlen ad-dalu, yn sgil y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw. Cytunodd Andrew Slade i ysgrifennu gyda manylion pellach.
3.3 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:
· Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y trafodaethau dwyochrog a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd ynghylch Cyfrifon Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig;
· Rhoi rhagor o wybodaeth am raddfa'r golled yn 2018-19 ynghylch stociau cyffuriau sydd wedi dod i ben ac archwilio i a allai’r cyffuriau fod wedi cael eu defnyddio yn rhywle arall cyn i’w dyddiad ddod i ben, gan gynnwys pam mae’r ffigurau ar gyfer cyffuriau a ddilëwyd yn uwch na ffigurau’r blynyddoedd blaenorol;
· Anfon rhagor o fanylion ynglŷn â grant nofio am ddim Llywodraeth Cymru i bobl dros 60 oed;
· Anfon ragor o wybodaeth unwaith y bydd yr adroddiad o'r gwerthusiad o'r peilot cyllido hyblyg wedi'i lunio; ac
· Egluro pam mai 41 y cant yn unig o'r cyllid a ddyrannwyd i'r Cynllun Datblygu Gwledig a gafodd ei wario, fel yr oedd ym mis Awst 2019.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.